Castell Hearst

Castell Hearst
Mathplasty, tirnod, California state historic park Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlWilliam Randolph Hearst Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1919 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolHearst San Simeon State Historical Monument Edit this on Wikidata
LleoliadSan Simeon Edit this on Wikidata
SirSan Luis Obispo County Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau35.6853°N 121.1678°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolPensaernïaeth Adfywiad Trefedigaethol Sbaenaidd, Mediterranean Revival architecture Edit this on Wikidata
PerchnogaethWilliam Randolph Hearst Edit this on Wikidata
Statws treftadaethNational Historic Landmark, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA Edit this on Wikidata
Manylion
Y castell o'r tu allan
Y pwll nofio tu mewn

Plasty ger San Simeon, Califfornia yw Castell Hearst. Lleolir ar Ffordd 1 tua hanner ffordd rhwng San Francisco a Los Angeles. Perchennog y castell oedd William Randolph Hearst (1863-1951), a oedd yn flaellaw ym myd papurau newydd a chylchgronau. Roedd ganddo dir a thai ar draws y byd, gan gynnwys Castell Sain Dunwyd ym Mro Morgannwg. Roedd Hearst wedi teithio ar draws Ewrop pan oedd yn ddeg oed, ac am weddill ei oes roedd yn awyddus i gael cartref tebyg i'r rhai y gwelodd yno. Cydweithiodd efo'r pensaer Julia Morgan dros gyfnod o 28 mlynedd, gan ddechrau ym 1919, er mwyn creu Castell Hearst. Mae'r gwestai a ymwelodd a'r castell yn cynnwys Calvin Coolidge, Winston Churchill, George Bernard Shaw, Charles Lindbergh a Charlie Chaplin.[1]. Mae gan Y Cuesta Encantada (Y Bryn Swynol) 127 acer o erddi, terasau a phyllau, ac roedd yna sŵ.[2] Mae gan y prif dŷ, La Casa Grande, 116 ystafell a a sawl bwthyn ar gyfer gwestai.

  1. Gwefan Adran Parciau Califfornia
  2. "Tudalen Julia Morgen ar wefan architecture.about.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-23. Cyrchwyd 2013-02-12.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search